Mencap Manifesto: Cymru
Mencap Manifesto: Cymru
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol gefnogi Ofcom i weithredu’r deddfau newydd ar gyfryngau cymdeithasol a chefnogi ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth.
Ofcom yw’r sefydliad sy’n gwneud yn siŵr bod y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gyfraith.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol ddechrau Tariff Ynni Cymdeithasol ar gyfer pobl anabl a’u gofalwyr.
Byddai Tariff Ynni Cymdeithasol yn gosod pris is ar gyfer trydan, nwy a dŵr i bobl anabl a gofalwyr.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol atal pobl ag anabledd dysgu rhag bod mewn perygl o gael sancsiynau ar fudd-daliadau.
Mae sancsiynau ar fudd-daliadau’n golygu bod eich budd-daliadau’n cael eu hatal.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol addo i edrych ar faint o arian sy’n cael ei dalu i bobl yn eu budd-daliadau a chyfrifo a yw hyn yn ddigon i bobl fyw arno.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol barhau i roi mwy o arian i Fynediad i Waith.
Rydym ni eisiau i Fynediad i Waith roi hyfforddiant swydd i bobl ag anabledd dysgu cyn ac ar ôl interniaeth.
Interniaeth yw pan fyddwch yn cael profiad gwaith am gyfnod penodol.
Mae cronfa o arian ar gael o’r enw Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
Mae’r arian hwn yn cael ei roi i wahanol brosiectau, fel cymorth cyflogaeth i bobl anabl.
Ond bydd yr arian hwn yn dod i ben yn 2025.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol addo i barhau i roi arian i gronfa newydd ar gyfer prosiectau cyflogaeth i bobl anabl.
Dylai’r holl bleidiau gwleidyddol addo i ddilyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd yn ddogfen sy’n dweud sut y dylai pobl anabl gael eu trin.
Rydym ni eisiau i’r holl bleidiau gwleidyddol wneud yn siŵr bod pobl ag anabledd dysgu yn cael yr un mynediad at wasanaethau arian gydag addasiadau rhesymol iddynt.
Mae Mencap eisiau i’r pleidiau gwleidyddol addo i wneud y deddfau ar droseddau casineb yn well.
Cynigiodd Comisiwn y Gyfraith rai syniadau ar sut i wella’r gyfraith. Rydym ni eisiau i’r syniadau hyn ddod yn gyfraith newydd ar droseddau casineb.
Byddai’r gyfraith newydd hon yn gwneud yn siŵr bod pobl anabl yn cael eu trin yr un fath â grwpiau eraill sy’n wynebu troseddau casineb.