The Big Public Transport Survey: Supporter guidelines (Welsh version)

Arolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus Mawr Canllawiau ar gyfer cefnogwyr

Ynglŷn â’r arolwg

Mae Mencap yn cynnal arolwg cenedlaethol am drafnidiaeth gyhoeddus i bobl ag anabledd dysgu yn y DU. 

Bydd hwn yn gyfle i bobl ag anabledd dysgu ddweud wrthym am eu profiadau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bywydau bob dydd. Byddwn ni’n gofyn cwestiynau ar bynciau eraill hefyd, megis lles, cymuned a gwaith. Bydd y canlyniadau’n helpu Mencap i ddarparu gwell cymorth a gwella bywydau pobl ag anabledd dysgu ymhellach. 

Cyfranogwyr yr arolwg

Mae’r arolwg ar gyfer oedolion (dros 18 oed) ag anabledd dysgu sy’n byw yn y DU.  Bydd rhai pobl ag anabledd dysgu yn gallu cwblhau’r arolwg ar eu pennau eu hunain.  Efallai y bydd angen help ar bobl eraill i gwblhau’r arolwg.  Efallai y bydd arnyn nhw angen gweithiwr cefnogi, aelod o’r teulu, ffrind neu rywun arall i’w cefnogi. 

Os nad yw'r arolwg yn hygyrch i rywun rydych chi'n ei gefnogi, mae llawer o ffyrdd eraill y gallant gymryd rhan! Er enghraifft, gallai hyn fod trwy gyfweliad, sgwrs neu hyd yn oed dynnu llun. I drefnu hyn e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 0207 454 0454. 

Syniadau ar gyfer cefnogwyr

Diolch am gynnig cefnogi rhywun i gwblhau’r arolwg.  Rydyn ni wedi casglu ynghyd rai awgrymiadau i wneud hyn yn haws i chi:

  1. Penderfynu ble dylai’r sgwrs ddigwydd 
    Cyn cychwyn ar yr arolwg siaradwch â’r unigolyn ynghylch ble yr hoffen nhw ei gwlbhau.  Mae’n bwysig bod hwn yn lle y mae’r unigolyn yn teimlo’n ddigon cyfforddus ynddo i siarad am eu bywyd a’u profiadau.  Gall hwn fod yn lle sydd â digon o breifatrwydd neu’n  lle y maen nhw’n barod yn gyfarwydd ag o.  
     
  2. Gwneud yn siŵr bod yr unigolyn yn teimlo’n gartrefol 
    Mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn teimlo’n gartrefol wrth iddo gwblhau’r arolwg.  Cyn i chi gychwyn, trafodwch sut yr ydych yn mynd i fynd ati i lenwi’r arolwg.  Efallai y bydd ar rai pobl eisiau darllen a llenwi’r arolwg eu hunain, tra bydd eraill am i chi wneud hyn drostyn nhw.  Gadewch ddigon o amser iddyn nhw ateb bob cwestiwn – ni ddylen nhw deimlo dan bwysau i gwblhau’r arolwg cyn gynted â phosibl.  Cymerwch seibiant pan fydd angen ac efallai rhoi’r tegell i ferwi cyn cychwyn!
     
  3. Gwnewch iddo deimlo fel sgwrs 
    Wrth lenwi’r arolwg, os gallwch chi wneud iddo deimlo fel sgwrs yna bydd hyn yn ei wneud yn llawer mwy o hwyl!  Yn hytrach na dim ond darllen y cwestiynau a’r dewisiadau o atebion, gallech sgwrsio o amgylch y materion ac annog ymatebwyr i ateb cwestiynau yn eu geiriau eu hunain i ddechrau cyn awgrymu dewisiadau o atebion iddyn nhw.  Mae’r ateb y byddan nhw’n ei roi yn debygol o fod yn gymharol agos at y dewisiadau o atebion a roddir yn yr arolwg.  Wrth gwrs, mae pawb yn wahanol ac felly bydd arnoch chi angen addasu arddull y sgwrs i weddu i’r person!
     
  4. Defnyddiwch raddfeydd ymateb trwy luniau os bydd angen 
    Fe welwch fod rhai o’r cwestiynau yn yr arolwg yn defnyddio graddfeydd ymateb, fel graddfa 5-pwynt o ‘Cytuno’n gryf’ i ‘Anghytuno’n gryf’.  Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi’n haws ateb y cwestiynau hyn trwy ddefnyddio lluniau.  Ar y tudalennau canlynol rydyn ni wedi creu graddfeydd lluniau i chi eu defnyddio i helpu pobl ateb y cwestiynau hyn. 

    Os nad yw’n ymddangos bod unigolyn yn deall y dewisiadau ymateb, hyd yn oed wrth ddefnyddio graddfa lluniau, yna ewch heibio’r cwestiynau hyn.
     
  5. Darllenwch drwy’r arolwg neu ymarfer o flaen llaw 
    Efallai yr hoffech chi ddarllen trwy gwestiynau’r arolwg cyn cefnogi rhywun i’w lenwi i mewn.  Neu efallai yr hoffech chi ymarfer rhoi’r arolwg ar waith gyda chydweithiwr, aelod o’r teulu neu ffrind cyn cefnogi rhywun i’w lenwi i mewn. 

Cael caniatâd gwybodus a pharhau â’r caniatâd hwnnw

Mae’n hanfodol eich bod yn gofyn i’r unigolyn a yw’n hapus i gymryd rhan yn yr ymchwil.  Cyn gwneud hyn, bydd arnoch angen darllen trwy’r rhan ‘gwybodaeth am yr arolwg hwn’ sy’n union ar ddechrau’r arolwg.  Bydd hyn yn eich helpu i roi gwybodaeth bwysig i’r unigolyn am bethau fel cyfrinachedd a sut y bydd Mencap yn defnyddio unrhyw ddata a gesglir.  Ar ôl i chi fynd drwy’r wybodaeth hon gyda’r unigolyn, gwiriwch a yw wedi ei deall a’i chadw mewn cof. 

Mae’n bwysig iawn eich bod yn egluro na fydd unrhyw effeithiau gwael na negyddol os bydd rhywun yn penderfynu peidio â chymryd rhan, yn hepgor cwestiwn neu roi’r gorau i ateb cwestiynau ar unrhyw adeg. 

Wrth i chi gefnogi’r unigolyn i gwblhau’r arolwg, gwiriwch eu bod yn hapus i barhau wrth i chi symud ymlaen.  Efallai y bydd rhywun yn newid ei feddwl hanner ffordd drwy’r arolwg ac fe ddylen nhw fedru roi’r gorau i ateb cwestiynau os ydyn nhw’n dymuno. 

Rhoi gwybod am bryderon

I’r rhan fwyaf o bobl bydd cwblhau’r arolwg yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad am y ffordd y mae eu bywyd yn teimlo ar hyn o bryd a’r pethau fydd yn helpu i wella hyn.  Fodd bynnag, wrth i chi gefnogi rhywun i’w gwblhau, mae’n bosibl y bydd yn datgelu rhywbeth fydd yn achosi pryder. 

Rhowch wybod am unrhyw bryderon i Mary Peachey, Arweinydd Ymchwil prosiect Motability, drwy e-bostio [email protected]. Os ydych yn gweithio i Mencap neu sefydliad arall, dilynwch yr holl brotocolau a pholisïau diogelu perthnasol hefyd, fel y bo'n briodol. 

Ffynonellau cefnogaeth pellach

I gael cefnogaeth gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Mencap.  Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth rhad ac am ddim i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.  Ffoniwch 0808 808 1111 neu e-bostiwch [email protected]  

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0808 808 1111 (a dewiswch opsiwn 2) neu e-bostiwch [email protected] 

Os ydych chi yng Nghymru, ffoniwch 0808 808 1111 (a dewiswch opsiwn 3) neu e-bostiwch [email protected] 

Gallwch hefyd siarad â Thîm ymchwil Mencap ynghylch unrhyw un o’r materion a gynhwysir yn yr arolwg hwn.  E-bostiwch: [email protected].   

A table showing 5 faces whose expressions go from very happy to very sad
A table showing 10 faces whose expressions go from very sad to very happy
A table showing 5 faces whose expressions go from very happy to very sad