Tell us what you think - Welsh
Dywedwch wrthyn ni beth rydych chi’n feddwl

Mae’r ffurflen Hawdd ei Deall yma’n dweud wrthych chi sut i wneud cwyn neu sut i ddweud wrthyn ni pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth yn dda.
Mae dweud wrthyn ni pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth yn dda yn cael ei alw’n canmoliaeth.

Gwneud cwyn
Mae gwneud cwyn yn meddwl sôn wrthyn ni am rywbeth nad ydych chi’n ei hoffi.

Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’ch cefnogaeth gan Mencap, fe hoffen ni i chi ddweud wrthyn ni.

Mae hi’n iawn i gwyno.
Mae’n gallu bod yn ffordd dda o wneud pethau’n well.
Pan fyddwn ni’n gwybod beth sydd o’i le, gallwn ni roi pethau’n iawn.

Os nad ydyn ni’n gwneud pethau’n well yn y ffordd roedd arnoch chi eisiau, gallwch wneud apêl.
Mae apêl yn meddwl y byddwn yn edrych arno eto i weld allwn ni wneud mwy i’ch helpu chi.

Anfon canmoliaeth aton ni
Pan ydych chi’n meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda, fe hoffem i chi ddweud wrthyn ni. Mae hyn yn cael ei alw’n canmoliaeth.
Pan ydych chi’n hapus, rydyn ni’n hapus hefyd.

Sut i ddweud wrthyn ni beth rychych chi’n feddwl
Gallwch lenwi ein ffurflen Hawdd ei Deall sydd ar-lein i wneud cwyn neu anfon canmoliaeth aton ni.
Os oes arnoch chi angen help â’r ffurflen, gofynnwch i rywun mae gennych chi ffydd ynddo, neu eich gofalwr.

Gallwch chi hefyd bostio cwyn at Mencap trwy lawrlwytho copi o’r ffurflen a’i hanfon aton ni trwy lythyr neu e-bost.
- E-bost: complaints@mencap.org.uk
- Post: The Compliments and Complaints Team, Mencap, 6, Cyrus Way, Hampton, Peterborough. PE7 8HP.

Gallwch siarad â’n rheolwr Canmoliaeth a Chwynion trwy:
- Ffonio: 0808 196 8424 (rhadffôn)
- Neu e-bostio: complaints@mencap.org.uk