The Big Public Transport survey: Questions and answers (Welsh version)

Arolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus Mawr: Cwestiynau a sy’n cael eu gofyn yn aml

A man in a suit is pointing to a checklist which has green ticks on it

Am beth mae'r Arolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus Mawr?

Hoffem ofyn rhai cwestiynau amdanoch chi a'ch profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cwestiynau ar bynciau eraill hefyd, megis lles, cymuned a gwaith. 
Byddwn ni’n gofyn i lawer o bobl lenwi'r arolwg. 
 

A woman sitting at a desk with a pen in her hand about to fill out a form

Pwy sy’n cael cymryd rhan yn yr arolwg?

Cewch chi gymryd rhan yn yr arolwg os ydych chi’n oedolyn ag anabledd dysgu ac yn byw yn y DU. 

Two women are sitting at a desk, one is helping the other fill out a form

Ydy rhywun yn gallu fy helpu i lenwi’r arolwg?

Ydy. Efallai y bydd arnoch chi angen rhywun i’ch helpu i ddarllen yr arolwg ac ateb y cwestiynau. Gallwch ofyn i weithiwr cefnogi, gofalwr, aelod o’r teulu, ffrind neu rywun arall i’ch helpu. 

A laptop with a blue screen and www. underlined on it

Sut ydw i'n llenwi'r arolwg?

Gallwch lenwi’r arolwg ar-lein yma: https://mencap.org.uk/our-big-public-transport-survey
 

an email and a phone

Neu gallwch ofyn i gopi papur o'r arolwg gael ei bostio atoch. Os hoffech gopi papur, ffoniwch 0207 454 0454 neu e-bostiwch [email protected] 

Somebody writing an address on an envelope.

Neu gallwch ysgrifennu atom: 

Mary Peachey
Research Team
East One
20-22 Commercial Street
Spitalfields
London
E1 6LP.
 

A woman talking to a man

Os nad yw'r arolwg yn hygyrch i chi mae llawer o ffyrdd eraill y gallech chi gymryd rhan! Er enghraifft, gallai hyn fod trwy gyfweliad, sgwrs, neu hyd yn oed dynnu llun. 

Cysylltwch â ni i drefnu hyn. 

A picture of the Welsh flag: A red dragon and green grass

Oes fersiwn Cymraeg o’r arolwg ar gael?

Oes. Gallwch lenwi’r fersiwn Cymraeg o’r arolwg ar-lein yma: https://s.alchemer.eu/s3/MencapArolwgTrafnidiaethGyhoeddusMawr 

I gael copi papur o’r arolwg Cymraeg, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 0207 454 0454.

A woman holding up a clipboard with a green tick on it. Her other hand is raised with her thumbs up

Pam fod yr arolwg yn bwysig?

Bydd hyn yn gyfle i chi ddweud wrthyn ni am eich bywyd a’ch profiadau. Byddwn ni’n gofyn cwestiynau am drafnidiaeth gyhoeddus, a phynciau eraill megis lles, cymuned a gwaith. 

Bydd y canlyniadau’n helpu Mencap i roi gwell cefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu. Fe fyddwn ni'n defnyddio eich atebion i helpu i wneud bywyd yn well i bobl ag anabledd dysgu.

A group of people are sat around a table talking

Sut wnaeth Mencap ddylunio‘r arolwg?

Fe wnaethom ofyn i grŵp o bobl ag anabledd dysgu ein helpu i ddylunio’r arolwg. Fe wnaethom siarad â nhw am yr hyn sy'n bwysig i'w ofyn i bobl ag anabledd dysgu.    

A young woman reading an Easy Read booklet

Fe wnaethon nhw weithio gyda ni i ddewis pa gwestiynau i'w cael yn yr arolwg a gwneud yr arolwg yn haws ei ddeall. Fe wnaetnon nhw weithio gyda ni i ddewis pa luniau i'w defnyddio. 

A group of people pointing to a piece of paper on a table inside a magnifying glass with a blue circle around it

Mae gennym ni hefyd berson ag anabledd dysgu yn gweithio yn y tîm Ymchwil ar yr arolwg. Fe wnaeth aelodau tîm eraill o Mencap ein helpu ni i ddylunio’r arolwg hefyd. 

A man in a wheelchair with his thumb down and holding a piece of paper with a red cross on it.

Fe gawsom syniadau o arolygon eraill hefyd. Fe wnaethom  ganfod nad yw llawer o arolygon ar gyfer y cyhoedd yn hygyrch i bobl ag anabledd dysgu. Felly ni wnaethom gynnwys llawer o gwestiynau o arolygon cyhoeddus cyffredinol yn yr Arolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus Mawr.

Two women with speech bubbles talk to each other. One is writing on a clipboard

Yna fe wnaethom brofi’r arolwg gyda phobl eraill ag anabledd dysgu. Roedd hyn er mwyn gwirio a oedd pobl yn deall y cwestiynau. Fe wnaethom rai newidiadau i'r arolwg yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd wrthym. 

A man reading an easy read booklet with the word Report on the cover

Sut fydd Mencap yn rhannu’r pethau mae’n nhw’n cael gwybod amdanyn nhw?

Fe fyddwn ni’n ysgrifennu adroddiad am y pethau rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw. Fe fyddwn ni’n rhannu’r adroddiad gyda mudiadau eraill. Fe fyddwn ni hefyd yn rhannu’r adroddiad ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol (pethau fel Instagram a Facebook).

A woman with her finger on her lips and a sign saying Confidential

Fyddwch chi’n defnyddio fy enw i yn yr adroddiad?

Na fyddwn, fyddwn ni ddim yn defnyddio eich enw yn yr adroddiad. Mae eich atebion i’r arolwg hwn yn gyfrinachol. Mae hyn yn meddwl na fyddwn ni’n defnyddio eich enw pan fyddwn ni’n rhannu’r pethau rydyn ni wedi cael gwybod amdanyn nhw.  

A woman with her palm outstretched saying NO

Oes raid i mi gymryd rhan yn yr arolwg?

Nac oes. Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg os nad oes arnoch chi eisiau. Os byddwch chi’n newid eich meddwl yn ystod yr arolwg, gallwch roi’r gorau iddi. 

A drawing of a consent leaflet with a big green tick on it

Byddwch chi’n dweud wrthym os ydych am gymryd rhan.

Yna gallwch chi ateb cwestiynau'r arolwg.
 

A consent form with a red cross on it

Neu os nad ydych chi am gymryd rhan yna ni fydd dim byd arall yn digwydd. 

A magnifying glass over different groups of people

Sut byddwch chi'n dod o hyd i bobl i gymryd rhan yn yr arolwg?

Byddwn ni’n cysylltu â llawer o wahanol bobl. Er enghraifft, byddwn ni’n cysylltu â sefydliadau, grwpiau a gwasanaethau sy'n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu yn y DU.

Byddwn ni hefyd yn rhannu'r arolwg gyda chynghorau lleol.

Byddwn ni’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gysylltu â phobl nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau hefyd. 

A young man with Down syndrome has his hand up to asking something

Mae gen i gwestiwn arall. I bwy dylwn i ofyn?

Cysylltwch â’r ymchwilwyr os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn. 

Gallwch e-bostio [email protected] neu ffonio 0207 454 0454.