Ynglŷn â Criw Clên
Mae Criw Clên yn bartneriaeth unigryw a newydd sbon rhwng Mencap Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Bydd y prosiect hwn, sy'n torri tir newydd, yn cefnogi oedolion ag anabledd dysgu i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli ar safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell y Waun, Castell Powys a Dyffryn Ogwen.
Pa effaith fydd hyn yn ei gael?
Gwirfoddoli cynhwysol
Bydd yr hyn a ddysgir gan y prosiect yn helpu safleoedd a mudiadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddeall sut i roi'r wybodaeth a'r hyder i'w timau i ddarparu cyfleoedd cynhwysol yn yr amrediad ehangaf bosibl o leoliadau.
Yn y pen draw bydd hyn yn sicrhau llawer o gyfleoedd gwirfoddoli mwy ystyrlon ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn eu cymuned.
Lleihau unigrwydd cymdeithasol
Bydd Criw Clên yn helpu i gynyddu amlygrwydd pobl ag anabledd dysgu - a fydd, yn ei dro, yn helpu i leihau gwarthnod a gwahaniaethu ymysg y cyhoedd.
Bydd hefyd yn gwella llesiant gwirfoddolwyr ag anabledd dysgu, trwy leihau unigrwydd cymdeithasol, gwella hyder a darparu mynediad i'r gymuned.
I gefnogi Ffrindiau'r Ymddiriedolaeth, rydyn ni'n cynnal Te Partis Mawr yn Nyffryn Ogwen (16 Gorffennaf), Castell y Waun (24 Gorffennaf) a Chastell Powys (27 Gorffennaf).
Bydd llawer o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu i gyd - buasem wrth ein boddau yn eich gweld chi yno!

Clywed gan wirfoddolwr
Mae Hayden yn wirfoddolwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Tŷ Newton, Dinefwr.
Mae Hayden wedi bod yn dweud cymaint y mae'n hoffi Dinefwr ac mae'n teimlo "bod pobl yn gwrando arno ac yn ei werthfawrogi pan fydd ganddo syniadau newydd."
Mae'n aml yn crybwyll cymorth a chefnogaeth ei gydweithwyr Jenna, Jo, Kim a llawer o rai eraill. Dywed bod ei gydweithwyr yn rhoi "arwyddion" iddo ac yn "codi ei hyder."

Gwnewch rodd i Criw Clên
Bydd cefnogi deg o oedolion ag anabledd dysgu i ymuno â chyfleoedd gwirfoddoli'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn costio oddeutu £45,000 y flwyddyn. Bydd y gyllideb hon yn cynnwys prosiect peilot deuddeng mis, gan greu llwyfan ar gyfer lleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eraill a rhoi gwell dealltwriaeth i fudiadau ynghylch gweithio â phobl ag anabledd dysgu.
Bydd y prosiect peilot yn caniatáu i fudiadau ddysgu a deall beth sydd ei angen ar gyfer datblygu yn y dyfodol, er mwyn medru rhoi hyn mewn grym yn eu mudiad hwy.
Mae'r gost hon yn cynnwys logisteg, cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a chefnogaeth un i un ar gyfer pob gwirfoddolwr ag anabledd dysgu.
Gallwch ein helpu i gyrraedd ein nod trwy wneud rhodd ar-lein i'n tudalen 'JustGiving'.
See how much we've raised so far
I gael rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â'n Tîm Codi Arian Cymunedol i gael rhagor o fanylion am y prosiect hwn a gweld sut y gallwch gymryd rhan.