Helping young people reach their goals.
Nos Iau 11eg Hydref 2012 yn Stadiwm y Liberty, Abertawe.
Mae Mencap Cymru, gyda chefnogaeth The Events Room, yn eich gwahodd i noson arbennig gyda’r cyn chwaraewr rygbi’r undeb rhyngwladol chwedlonol David Campese yn Stadiwm y Liberty Abertawe.
Bydd y noson yn cychwyn am 7.30pm ac yn cynnwys diod cyfarch ar ôl cyrraedd a chinio dau gwrs. Bydd y digrifwr o Awstralia Justin Karcher yn arwain y noson, a fydd hefyd yn cynnwys raffl ac ocsiwn.
Mae David Campese yn enw adanbyddus ym myd rygbi. Mae llawer yn ei weld fel un o’r chwaraewyr gorau a mwyaf difyr i chwarae’r gêm. Cynrychiolodd Awstralia am 15 mlynedd, gan gyflawni record byd am sgorio’r mwyaf o geisiau mewn gêm brawf, record sy’n dal i sefyll heddiw. I adio at ei gyflawniadau, fe oedd y dyn cyntaf i chwarae 101 o gemau prawf i’w wlad.
Er ei fod wedi ymddeol ers bron i 10 mlynedd, mae effaith David ar y gêm yn parhau’n amlwg. Mae ei sylwadau dadleuol, ond gan amlaf cywir, ar y gêm yn parhau i ddifyrru trwy’r byd rygbi.
Mae byrddau corfforedig i 10 ar gael am £450.
Mae llefydd unigol ar fyrddau o 10 hefyd ar gael am £45 y person.
Mae gennym hefyd 20 o docynnau ‘VIP’ am £65 y person. Fe fyddwch yn cael derbyniad siampên mewn swît breifat gyda David a seddi mewn lleoliad gwych ar gyfer prif ddigwyddiadau’r noson.
Mae hwn yn ddigwyddiad unigryw tocynnau yn unig. Mae llefydd ar gael trwy gysylltu â The Events Room ar 0845 108 5690.

